Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Thomas Moffett. Insectorum sive minimorum animalium theatrum. London, 1634. Thomas Moffett. Insectorum sive minimorum animalium theatrum. London, 1634.

Dyma’r llyfr cyntaf sy’n ymwneud yn gyfan gwbl ag entomoleg i’w gyhoeddi yn Ynysoedd Prydain.  Am fod gan Moffet gymaint o ddiddordeb mewn corynnod, credir mai ei ferch Patience oedd ‘little Miss Muffet’ yr hwiangerdd enwog.  Ymwelodd y ffisigwr Thomas Moffett (1553-1604) â’r Eidal ym 1580, lle bu’n astudio’r modd y meithrinid  y pryf sidan (byddai’n seilio cerdd ar hyn maes o law), gan ddatblygu awch am entomoleg.  Erbyn 1590 roedd wedi cwblhau’r Insectorum, a oedd yn rhannol seiliedig ar ysgrifeniadau anghyhoeddedig Conrad Gesner.  Fodd bynnag, roedd rhaid aros tan 1634 cyn i’r llawysgrif gael ei hargraffu.

Hawlfraint