Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Wenceslaus Hollar. Aesop’s Fables. London, 1673.
Ganed Wenceslaus Hollar (1607-1677) yng ngwlad Tsiec ond credir yn gyffredinol mai ef yw’r artist cyntaf i weithio yn Lloegr a oedd yn ystyried bod darlunio llyfrau yn gelfyddyd ar wahân. Gweithiodd yn Llundain am ddeng mlynedd ar hugain a mwy a threuliodd wyth mlynedd pellach yn alltud gyda’r Brenhinwyr ar y Cyfandir. Mae’i waith difrifol fel darlunydd ar gyfer llenyddiaeth ddychmygus yn gysylltiedig iawn â’r cyhoeddwr John Ogilby (1600-1676). Ym 1666, difethwyd stoc Ogilby gan Dân Mawr Llundain, gan gynnwys y fersiwn gyntaf o Aesop i’w darlunio gan Hollar, ond llwyddodd Ogilby i adfer y sefyllfa â’r argraffiad newydd hwn a helaethwyd ac a oedd yn cynnwys rhyw hanner cant o chwedlau ychwanegol a ddarluniwyd gan Hollar a Francis Barlow (1626?-1704) y darluniwr llyfrau cyntaf o fri i’w eni yn Lloegr.

