Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Alexander Dalrymple. An Historical Collection of the Several Voyages and Discoveries in the South Pacific Ocean. London, 1770-71. Alexander Dalrymple. An Historical Collection of the Several Voyages and Discoveries in the South Pacific Ocean. London, 1770-71.

Bu Alexander Dalrymple (1737-1808) yn hydrograffydd i Gwmni India’r Dwyrain rhwng 1779 a 1795 ac wedyn i’r Morlys.  Lluniodd ryw 1,000 o fapiau a siartiau o’r tiroedd ar ymylon Cefnfor yr India a'r Cefnfor Tawel.  Paratôdd y casgliad presennol o deithiau pan oedd yn hydrograffydd i’r Morlys. Yn y gyfrol gyntaf ceir cyfieithiadau o deithiau Sbaen gan ddechrau gyda Ferdinand Magellan ym 1519 a chan ddod i ben gyda Pedro Fernandes de Quirós ym 1606.  Yn yr ail gyfrol ceir teithiau o’r Iseldiroedd gan William Schoten a Jacob Le Maire, Abel Tasman, a Jacob Roggeveen.  Dalrymple oedd y golygydd beirniadol cyntaf o’r darganfyddiadau yn Australasia a Pholynesia.  Cyhoeddwyd y gwaith hwn i ategu'i honiad am fodolaeth cyfandir deheuol, ond byddai ail daith Cook yn rhoi taw’n derfynol ar y dybiaeth hon. Yn ôl damcaniaethau Dalrymple, byddai’r tiroedd newydd eu darganfod yn ne'r Cefnfor Tawel yn helpu i chwyddo masnach gynyddol Lloegr.

Hawlfraint