Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Andreas Everardus van Braam Houckgeest, Voyage de l'Ambassade de la Compagnie des Indes Orientales Hollandaises, vers l'Empereur de la Chine. Philadelphia, 1797.
Roedd Andreas Everardus van Braam Houckgeest (1739-1801) yn is-gennad ar genhadaeth a anfonwyd gan Gwmni India’r Dwyrain Isalmaenig ym1794 i longyfarch ymerawdwr Tsiena ar drigain mlwyddiant ei lywodraeth. Wedi’i ysbrydoli gan Chwyldro America, rhoddodd Van Braam y gorau i’w ddinasyddiaeth Isalmaenig a dod yn ddinesydd Americanaidd ym 1784, ac felly’r honnir mai ef oedd yr Americanwr cyntaf i ymweld â Tsieina. Ar ddechrau’r gyfrol gyntaf, ceir cyflwyniad i George Washington. Ysgrifennwyd y llawysgrif wreiddiol yn yr Isalmaenig ac fe’i troswyd i’r Ffrangeg a’i golygu gan Moreau de Saint-Méry, gwerthwr llyfrau o emigré a fu’n byw am rai blynyddoedd yn Philadelphia cyn iddo gael ei alw yn ôl i Ffrainc gan Napoleon. Gwaith engrafwyr Americanaidd oedd y platiau. Argraffiad cyntaf yw’r gyfrol bresennol ac mae’n gopi prin iawn gan i Ffrainc ymosod ar lwyth a oedd yn cynnwys 500 o gopïau o’r gyfrol gyntaf a’i ddifetha tua diwedd 1797.

