Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Atlas to Cook’s Voyage. London, 1784. Atlas to Cook’s Voyage. London, 1784.

Teithiau James Cook (1728-1779) oedd cychwyn y cyfnod modern o archwilio gwyddonol.  Gosododd ei dair mordaith batrwm ar gyfer teithiau yn y dyfodol, am fod iddynt ddiben penodol wyddonol, yn hytrach nag un gwleidyddol, gan gludo artistiaid a naturiaethwyr a ddaeth â chasgliadau mawr o blanhigion, anifeiliaid a gwrthrychau ethnograffig yn ôl o’r rhanbarthau y buont yn ymweld â hwy.  Yn ystod ei ail daith (1772-1775), ar yr 'Adventure' a’r 'Resolution', croesodd ei longau ledred y 70 gradd, sef y man mwyaf deheuol i Ewropeaid ei gyrraedd ar y pryd.

Hawlfraint