Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Balthazar Solvyns. A collection of two hundred and fifty coloured etchings descriptive of the manners, customs, character, dress, and religious ceremonies of the Hindoos. Calcutta, 1799.
Nid yw'r artist Fflemineg Farnais Balthazar Solvyns (1760-1824), a fu’n byw yn Calcutta rhwng 1791 a 1803, yn adnabyddus iawn, ond mae ei gasgliad o ysgythriadau o’r Hindŵaid yn rhoi darlun cyfoethog a thrawiadol o’r India ddau gan mlynedd yn ôl. Gwaith amrwd oedd yr ysgythriadau, o’u cymharu â safonau Ewropeaidd y cyfnod, ac nid oeddent yn apelio at y ffasiwn am olygfeydd darluniaidd. Methu a wnaeth y prosiect yn fasnachol o ganlyniad i aflonyddwch y rhyfeloedd Napoleonaidd a’r costau cynhyrchu enfawr. Pan ffurfiwyd Teyrnas yr Iseldiroedd ym 1814, dychwelodd Solvyns i Antwerp lle’i ganed, a phenododd Gwilym I ef yn Gapten y Porthladd mewn cydnabyddiaeth o'i orchestion artistig.

