Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Bernard de Montfaucon. L’antiquite expliquee, et representee en figures. Paris,1719. Bernard de Montfaucon. Lantiquite expliquee, et representee en figures. Paris,1719.

Roedd y mynach o Fenedictiad o Gynulleidfa Saint-Maur, de Montfaucon (1655-1741), yn ymddiddori’n fawr iawn mewn ysgolheictod hanesyddol ac eglwysig, ac aeth ati i arloesi ym maes astudio paleograffeg ac archeoleg Groeg.  Ym mhymtheg cyfrol ei waith Antiquité, bwriodd drem dros yr agweddau cymdeithasol ac artistig ar wareiddiadau hynafol, ac fe'i hystyrir yn un o gerrig sylfaen archeoleg wyddonol.  Wrth baratoi L'Antiquité cafodd de Montfaucon gyfraniadau a chymorth gan rai o brif gasglwyr hynafiaethau Ewropeaidd y cyfnod.  Cyfrannodd y gwaith yn sylweddol ar ledu diddordeb mewn archeoleg.

Hawlfraint