Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Bernard Le Bovier de Fontenelle. A plurality of worlds. London, 1702.
Cefnodd Bernard le Bovier de Fontenelle (1657 -1757) ar yrfa ym maes y gyfraith, a hynny dim ond ar ôl pledio un achos, er mwyn ysgrifennu adroddiadau poblogaidd am wyddoniaeth. Yn ei waith enwocaf, A Plurality of Worlds, mae Fontenelle yn egluro systemau seryddol Ptolemy, Copernicus, a Tycho Brahe mewn modd ffraeth. Mewn sgyrsiau â rhyw marquise sy’n ei holi wrth iddynt gerdded gyda’r hwyr mewn gardd ffurfiol, mae’n sôn am y lleuad a’r sêr, gan drafod y posibilrwydd o fywyd ar Fenws a Mawrth. Bu farw Fontenelle ym Mharis cwta un mis cyn ei ben-blwydd yn 100 oed. Priodolodd ei fywyd hir i’r mefus yr oedd yn eu bwyta.

