Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Bernard Picart. The ceremonies and religious customs of the various nations of the known world. London, 1733-1737. Bernard Picart. The ceremonies and religious customs of the various nations of the known world. London, 1733-1737.

Mae chwe chyfrol y gwaith hwn yn parhau i fod yn un o’r cofnodion mwyaf trawiadol o ysgolheictod Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif.  Y nod oedd disgrifio pob crefydd yn y byd hysbys ar yr adeg honno o ran ei tharddiad, ei hathrawiaethau a’i defodau.   Roedd uchelgais o’r fath yn adlewyrchu o ran ei gynnwys a'i naws hunan hyder yr Ancien Régime.  Yr un mor drawiadol â’r testun, fodd bynnag, yw’r 243 o blatiau a engrafwyd sy’n darlunio’r cynnwys, yn wir cyfeirir at y gwaith heddiw gan amlaf o dan enw’i ddarlunydd, yr artist Bernard Picart (1673-1733). Cyhoeddwyd y gwaith ddeng mlynedd cyn Encyclopédie Diderot, a dangosodd darluniau Picart ddefodau crefyddol fel pe baent, yn anad dim, yn arferion cymdeithasol, yn un o nodweddion defnyddiol a chyffredinol cymdeithasau dynol ym mhob cwr o’r byd.

Hawlfraint