Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Edward Young. The complaint, and the consolation or, Night thoughts. London, 1797. [Illustrated by William Blake]
Mae'n debyg mai diwedd 1794 neu ddechrau 1795 oedd hi pan gomisiynodd Richard Edwards William Blake (1757-1827) i ddarlunio cyfrol gain newydd o gerdd hir a myfyrgar Edward Young, The Complaint, and the Consolation; or, Night Thoughts, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1742-45. Hwn yw’r prosiect masnachol mwyaf y cyflogwyd Blake ar ei gyfer erioed. Ag egni afieithus heb os, gwnaeth 537 o luniau dyfrlliw gan ddarlunio naw adran y gerdd, sef y “Nights” chwedl Young. Mae’n debyg i’r lluniau dyfrlliw gael eu cwblhau erbyn 1796 ac yng ngwanwyn y flwyddyn honno dechreuodd Blake ysgythru ac engrafu detholiad o dri a deugain o ddyluniadau a oedd yn darlunio’r pedair Noson gyntaf. Cyhoeddwyd y rhain ym 1797 fel y gyntaf o bedair cyfrol ffolio arfaethedig. Cyn i ragor o gyfrolau gael eu hargraffu, caeodd Edwards ei fusnes cyhoeddi, Mae'n rhaid bod Blake wedi teimlo'r siom i'r byw. Cafodd y swm pitw o ugain gini am ei luniau dyfrlliw.

