Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Engelbert Kaempfer. The history of Japan. London, 1728. Engelbert Kaempfer. The history of Japan. London, 1728.

Ym 1692, llwyddodd un o ffisigwyr Cwmni  India’r Dwyrain Isalmaenig, Engelbert Kaempfer (1651-1716) i smyglo allan o Siapan y casgliad systematig cyntaf o ddeunyddiau Siapaneaidd i’w weld yn Ewrop.  Daeth casgliad Kaempfer yn sail i adroddiadau gwyddonol cyntaf y Gorllewin am yr ynysoedd ymerodraethol caeedig. Prynwyd llyfrgell Kaempfer a’i bapurau oddi wrth ei nai rhwng 1723-25 gan sylfaenydd yr Amgueddfa Brydeinig, Syr Hans Sloane. Wedyn trefnodd fod llawysgrif Almaeneg Kaempfer yn cael ei chyfieithu i'r Saesneg.  Sloane ei hun a dalodd am y gwaith hwn, a’i lyfrgellydd, sef meddyg o’r Swistir o’r enw Johann Caspar Scheuchzer (1702-29) a wnaeth y gwaith. Ar ôl cyhoeddi History of Japan ym1727 daeth Kaempfer yn enwog fel 'dehonglydd cyntaf Siapan'.  Mae ynddo ddisgrifiadau o aciwbigo, y defnydd ar opiwm a chanabis a disgrifiad systematig o de, ynghyd â sylwadau botanegol helaeth. Cafodd ganmoliaeth gan Linnaeus, a aeth ati i fabwysiadu cyfundrefn enwau Kaempfer.  Cyfareddwyd Luis Borges gan waith Kaempfer a chyfeiriodd ato'n aml yn ei waith ffuglen.

Hawlfraint