Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Georges Louis Leclerc, comte de Buffon. Histoire naturelle des oiseaux. Paris, 1770-1786.
Un o enwau mawr yr Oleuedigaeth yn Ffrainc oedd Georges-Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788), y naturiaethwr, y mathemategydd y cosmolegydd ac awdur gwyddoniadurol. Dylanwadodd ei weithiau ar y ddwy genhedlaeth nesaf o naturiaethwyr, gan gynnwys Jean-Baptiste Lamarck a Georges Cuvier. Cyhoeddodd Buffon bymtheg ar hugain o gyfrolau o'r Histoire naturelle yn ystod ei oes. Ym 1770 cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf a oedd yn ymwneud ag adar. Lliwiwyd y gyfrol ffolio bresennol â llaw gan ac yn null Francois Martinet, a engrafodd ddarluniau o adar ar gyfer llyfrau adaregwyr mwyaf dylanwadol y 18fed ganrif.

