Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Giovanni Battista Piranesi. Le antichità romane. Rome, 1756.
Giovanni Battista Piranesi (1720-1778) oedd un o wneuthurwyr printiau mwyaf y ddeunawfed ganrif, ac o ganlyniad i Antichita Romane enillodd enw am fod yn brif hyrwyddwr pensaernïaeth Rufeinig. Yn ogystal â bod yn artist roedd Piranesi hefyd yn bensaer dawnus, a’i nod yn yr Antichita oedd cofnodi’r gorffennol a oedd ar fin diflannu i ysgolheigion ynghyd ag ysbrydoli dylunwyr cyfoes i efelychu gorchestion Rhufain. Yn y fersiwn gyflawn o’r Antichita Romane ceir dau gant a hanner o ysgythriadau mawr ac fe’i cyhoeddwyd i ddechrau mewn pedair cyfrol enfawr. Ymddengys na fu pall ar weithgarwch diflino’r awdur na’i ymdeimlad o unoliaeth â mawredd Rhufain, oherwydd yn ôl y sôn, ar ddiwrnod ei farwolaeth, gwrthododd Piranesi wrthod, gan ddweud nad oedd gorffwys yn deilwng o un o ddinasyddion Rhufain, a threuliodd ei oriau olaf wrthi’n ddyfal â’i ddarluniau a'i blatiau copr.

