Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Jacques Francois Blondel. Description des festes données par la ville de Paris. Paris, 1740. Jacques Francois Blondel.. Description des festes données par la ville de Paris.. Paris, 1740.

Mae’r llyfr gŵyl godidog hwn yn cofnodi’r ŵyl gyhoeddus a gynhaliwyd ym Mharis ar 29-30 Awst, 1739 i ddathlu priodas y Dywysoges Louise Elizabeth o Ffrainc (1727-59) â Don Philip, Dug Parma (1720-65), mab Brenin Sbaen, Philip V.  Y pensaer a’r artist Giovanni Servadoni (1695-1766), oedd cynllunydd a chyfarwyddwr yr ŵyl. Ef oedd un o brif ddylunwyr gwyliau’r oes – dyluniodd y sioe tân gwyllt y cyfansoddodd Handel ei ddarn enwog ar ei chyfer, Cerddoriaeth ar gyfer y Tân Gwyllt Brenhinol, ar ei gyfer. Roedd awdur y gwaith presennol, Jacques-Francois Blondel (1705-1774), yn un o addysgwyr pensaernïol pwysicaf Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Hawlfraint