Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Jean-Nicolas Jadelot. Cours complet d'anatomie. Nancy: 1773.
Mae’r gyfrol hyfryd hon o gelfyddyd neo-glasurol anatomaidd yn dechrau gyda ffigyrau Apolon a Fenws ac yn mynd ati yn raddol i ddinoethi eu cnawd a’u cyhyrau nes dim ond dwylo a thraed eu sgerbydau oedd ar ôl. Paratowyd y darluniau â mesotint gan Arnauld-Eloi ac fe’i paentiwyd gan Jean Girardet.

