Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Johann Jakob Scheuchzer. Geestelyke natuurkunde [Physica Sacra]. Amsterdam, 1735. Johann Jakob Scheuchzer. Geestelyke natuurkunde[Physica Sacra]. Amsterdam, 1735.

Athro mewn mathemateg a pholymath oedd Johann Jakob Scheuchzer (1672-1733) ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn ffosilau.  Mae ei waith gorchestol Physica Sacra (1731-35) yn rhoi esboniad manwl o ddigwyddiadau yn y Beibl o safbwynt ffiseg, meddygaeth a hanes naturiol.  Mor helaeth oedd y darluniadau o engrafiadau plât-copr nes iddo gael yr enw, y Beibl plât-copr.   Mae pob darluniad yn cyfeirio at lyfr, pennod ac adnod benodol ym Meibl 1611, sef fersiwn y Brenin Iago.   Bu rhaid i  Scheuchzer gydnabod yn anfoddog mai olion anifeiliaid y môr oedd ffosilau a bod angen estyn fframwaith amser y Beibl, ac roedd felly yn gam ar y ffordd at Lyell a Darwin.

Hawlfraint