Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Maria Sibilla Merian. Der rupsen begin.Amsterdam, [1714] Maria Sibilla Merian. Der rupsen begin.Amsterdam, [1714]

A hithau’n ferch, chwaer a gwraig i artistiaid ac engrafwyr, bywyd anghonfensiynol a dweud y lleiaf a gafodd Maria Sabl Merian (1647-1717).  Daeth yn artist ei hun, ymadawodd â'i gŵr er mwyn ymuno â sect Brotestannaidd, ac yn 52 oed teithiodd i'r drefedigaeth Isalmaenig yn Ne America, Surinam.  Gweithiodd Merian yn broffesiynol o dan ei henw ei hun a threuliodd ddwy flynedd yn y fforest law yn arsylwi a chasglu pryfed a phlanhigion, yn ogystal â thynnu lluniau ohonynt. Mae Der Rupsen begin yn gampwaith o gelfyddyd a gwyddoniaeth. Mewn arddull byw, artistig hyfryd o urddasol, hi oedd y cyntaf i gofnodi cylch bywyd llawn llawer o rywogaethau pili-palaod a gwyfynod. Copi Phillips o’r Der Rupsen begin yw’r argraffiad Isalmaenig cyntaf ac fe’i lliwiwyd â llaw gan ei merched.  Er mai’r nod yn y bôn oedd dangos lindys a phili-palaod, hwn oedd un o’r llyfrau blodau cynnar mwyaf cywrain a dramatig.   Bu farw Merian mewn tlodi ym 1717.

Hawlfraint