Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Miguel de Cervantes Saavedra. De voornaamste gevallen van den wonderlyken Don Quichot. Hague, 1746. Miguel de Cervantes Saavedra. De voornaamste gevallen van den wonderlyken Don Quichot. Hague, 1746.

Enillodd Charles Antoine Coypel (1694-1752) lwyddiant artistig yn gynnar yn ei yrfa, gan sicrhau lle yn yr Academi Frenhinol yn un ar hugain oed.  Daeth ei lwyddiant mawr fel darlunydd yn sgil y golygfeydd o Don Quixote a baentiwyd ganddo rhwng 1715 a 1720.  Cyhoeddwyd pump ar hugain o engrafiadau a oedd yn seiliedig arnynt ym 1723-24,a phan leihawyd ar faint y rhain (bron o ddwy ran o dair) a’u cyhoeddi'n rhatach ym 1746 cawsant lwyddiant masnachol enfawr. Ynddynt mae Coypel yn gwneud hwyl am ben y Don trwy bwysleisio troeon trwstan y nofel. Bernard Picart oedd yn gyfrifol am engrafu deuddeg o’r darluniadau, gan gynnwys yr un a ddangosir yma.

Hawlfraint