Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Pierre-Joseph Buchoz. Les Dons merveilleux et diversement coloriés de la Nature dans le Regne Animal.Paris, 1782.
Enillodd Pierre-Joseph Buchoz (1731 -1807) radd mewn meddygaeth ym 1763 a chafodd ei benodi i swydd bwysig yn ffisigwr ar y Brenin Stanislaus o Wlad Pwyl. Fe’i cyhuddwyd o beidio â chyflawni’i ddyletswyddau, fodd bynnag, a rhoddodd y gorau iddi er mwyn canolbwyntio’i egni ar fotaneg, meddygaeth, economeg a mwynyddiaeth, gan gyhoeddi dros o 300 o gyfrolau ar y pynciau hyn yn y pen draw. Ar fotaneg oedd ei fryd yn bennaf, ond roedd ganddo ddiddordeb mewn dulliau o drin y felan ac argymhellodd therapi trwy gerddoriaeth. Ar ôl i Buchoz golli’i wraig a dioddef yn sgil helbulon y Chwyldro Ffrengig, cafodd loches gan fenyw a oedd wedi gweithio iddo fel lliwydd am 25 o flynyddoedd. Bu farw mewn tlodi ym Mharis ym 1807.

