Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Restif de La Bretonne. Monument du costume physique et moral de la fin du dix-huitième siècle. Neuwied sur le Rhin, 1789.
Roedd cymdeithas adeg Louis XVI yn argyhoeddedig ei bod wedi llwyddo i gyrraedd y brig yn hanes gwychder a gwareiddiad dynolryw. Rhydd y Monument du Costume ddarlun o foesau ac arferion pendefigion yr Ancien Régime mewn cyfres o 26 o ddarluniadau naratif a engrafwyd dros gyfnod o saith mlynedd yn fras gan un o wneuthurwyr printiau Ffrainc, Jean-Michel Moreau le Jeune (1741-1814). Ystyrir y gwaith hwn yn gyffredinol yn gamp ym maes cyhoeddi’r ddeunawfed ganrif.

