Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
Robert Adam. Ruins of the Palace of the Emperor Diocletian at Spalatro in Dalmatia. London, 1764.
Treuliodd Robert Adam bum wythnos ym 1757 yn gwneud y darluniau y mae’r gyfrol bresennol, yn seiliedig arnynt. Roedd Adam yn gyfarwydd â gorchestion Piranesi, ac yn awyddus i’r darluniadau yn ei waith, yn ogystal â bod yn rhai cywir, fod hefyd yn awgrymog. O’r herwydd aeth ati i gyflogi prif ddylunwyr ac engrafwyr ei ddydd, gan gynnwys Francesco Bartolozzi (1725-1815), un o sylfaenwyr yr Academi Frenhinol. Cymhlethwyd y gwaith o'u cynhyrchu am fod y cyfrifoldeb am yr engrafiadau wedi'i rannu ymhlith tîm o engrafwyr Eidalaidd a oruchwyliwyd yn Fenis gan ei frawd James, ac engrafwyr o Loegr a oedd yn gyfrifol am y golygon symlach a’r llorgynlluniau. Fodd bynnag, y canlyniad oedd cyfrol o'r radd flaenaf a oedd yn hysbysebu chwaeth a galluoedd proffesiynol Adam, yn ogystal â dangos y gallai pensaernïaeth Rufeinig fod mor drawiadol â’r adeiladau Groegaidd gorau. Credir mai’r astudiaeth o balas Diocletian oedd yn gyfrifol am selio’r cysyniadau neoglasurol ym meddyliau’r brodyr Adam, a oedd yn bennaf gyfrifol am ychwanegu synwyrusrwydd ac elfennau o ddyluniad Helenaidd a Lladinaidd at bensaernïaeth y cyfnod Sioraidd.

