Arddangosfa Thomas Phillips

18eg Ganrif

Sir George Staunton. An authentic account of an embassy from the King of Great Britain to the Emperor of China. London, 1797. Sir George Staunton. An authentic account of an embassy from the King of Great Britain to the Emperor of China. London, 1797.

Tan y 1790au, yr unig beth yr oedd ymdrechion Prydain i sefydlu cysylltiad uniongyrchol â Tsieina wedi llwyddo i’w wneud oedd cynyddu gwrthwynebiad Tsieina i fasnach â'r byd oddi allan. Ym 1792, dewiswyd yr hen law diplomyddol, yr Arglwydd Macartney (1737-1806), i arwain Llysgenhadaeth a aeth ati i geisio sefydlu cysylltiadau diplomyddol rheolaidd rhwng y naill wlad a'r llall er mwyn hyrwyddo masnach.  Ofer fu ymdrechion y Llysgenhadaeth a ddisgrifir gan y dyn a oedd yn Ysgrifennydd arni, Syr George Leonard Staunton (1737-1801). Dim ond deuddeng mlwydd oed oedd mab Staunton, George Thomas, ar y pryd ac aeth gyda hwy i Tsieina yn was i’r Arglwydd Macartney. George oedd yr unig aelod o’r genhadaeth a aeth i’r drafferth o ddysgu Tsieinëeg.

Hawlfraint