Arddangosfa Thomas Phillips
18eg Ganrif
William Hogarth. South Sea Bubble. Works. London, 1835.
Aeth William Hogarth (1697-1764) i’r afael â materion cymdeithasol a gwleidyddol mawr ei ddydd, gan gynnwys yr ysbaid o hapfasnach wyllt a alwyd yn Swigen Môr y De. Pan dorrodd y Swigen ym misoedd olaf 1720, chwalodd marchnadoedd Ewrop ac roedd Hogarth yn hallt ei ymateb. Yn y gwaith dan sylw mae’n dangos Ffortiwn a’i chorff yn afluniaidd a gorchudd am ei llygaid yn hongian gerfydd ei gwallt o falconi Neuadd y Dref yn Llundain. Mae ei chorff yn cael ei ddarnio gan y diafol sy’n chwifio’i bladur, ac sy’n taflu tameidiau o gnawd at yr hapfasnachwyr gwallgof isod. Gerllaw mae’r ceffylau bach sy’n troi yn cynrychioli'r hapfasnach sy'n chwyrlio'n wyllt ac mae menywod dibriod yn aros eu tro ar y balconi i gymryd rhan yn y raffl am wŷr sydd wedi ennill y loteri.

