Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
A plan for encreasing the exports of British manufactures to India illustrated by a series of engravings. London, 1813.
Gellir olrhain Cwmni India’r Dwyrain yn ôl i’r Siartr Frenhinol a roddwyd gan Elisabeth I ar 31 Rhagfyr 1600 a oedd yn trwyddedu cwmni cyd-ddaliannol i fasnachu yn India’r Dwyrain. Bu gan y Cwmni statws breintiedig ers tro yng ngolwg y Saeson, a llywodraeth Prydain maes o law, ac o ganlyniad,llwyddodd i sicrhau hawliau a breintiau arbennig, gan gynnwys monopolïau masnach ac eithriadau. Diddymwyd llawer o’r breintiau hyn gan Ddeddf Siartr 1813 a sbardunodd hyn doreth o gyhoeddiadau ar fasnach â’r India. Cyhoeddwyd y gwaith presennol yn ddienw ac anhysbys yw’r darlunydd hefyd. Mae ynddo gyfres o ddarluniau amatur a baentiwyd â llaw sy'n egluro dylanwad "llesol" y Cwmni ar gymdeithas yr India.

