Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
Coke Smythe. Sketches in the Canadas.London, 1840.
Cyflogwyd John Richard Coke Smyth (1808-82) yn athro darlunio ar deulu John George Lambton (1792-1840), Iarll cyntaf Durham. Yn rhinwedd y swydd hon ym mis Ebrill 1838 aeth Smyth gyda Durham, a oedd newydd ei benodi yn Llywodraethwr ar diroedd Canada, i Quebec. O ganlyniad i’r penodiad roedd angen teithio’n helaeth yng Nghanada Isaf ac Uchaf, a rhoddodd hyn ddigon o gyfle i Smyth ddarlunio'r sefyllfa yng Nghanada adeg Gwrthryfeloedd Mackenzie-Papineau yn erbyn Prydain. Y lluniau hyn oedd sail y 23 golygfa lithograff a gyflwynwyd i Iarll Durham yn Sketches in the Canadas.

