Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
Edward Dodwell. Views in Greece. London, 1830.
Teithiodd Edward Dodwell (1776/7-1832) ddwywaith i Wlad Groeg, yn gyntaf yng nghwmni William Gell o gwmpas yr Ynysoedd Ionaidd ac ardal Troas. Wedyn maes o law, ac yntau bellach yn garcharor i’r Ffrancod, gyda’r Eidalwr Simone Pomardi, pan aeth ar daith o gwmpas tir mawr Gwlad Groeg ac ymweld unwaith eto â’r Ynysoedd Ionaidd. Dewiswyd y 30 o ddarluniau yn y gyfrol hon o blith 400 a wnaed gan Dodwell, a 600 gan Pomardi. Daw hyfrydwch y gwaith i’r amlwg yn fwy byth o ganlyniad i’r gwaith lliwio rhyfeddol a wnaed â llaw (yn groes i’r arfer, caiff y lliwyr gydnabyddiaeth).

