Arddangosfa Thomas Phillips

19eg Ganrif

Edward Pugh. Cambria depicta : a tour through north Wales illustrated with picturesque views by a native artist. London, 1816. Edward Pugh. Cambria depicta : a tour through north Wales illustrated with picturesque views by a native artist. London, 1816.

Yn Cambria Depicta, rhydd y topograffydd a’r peintiwr Edward Pugh (1761-1813) gyflwyniad i Gymru o safbwynt Cymro Cymraeg, yn hytrach na theithiwr o Loegr. O achos hyn, gallai’r awdur ofyn i’w ddarllenwyr dderbyn ei waith a’r sylwadau a geir ynddo.  Rhannodd Pugh â’i ddarllenwyr wledd o ddigwyddiadau diddorol, clecs, a’i farn idiosyncratig am estheteg a chyflwr cyffredinol y byd.  Er ei fod yn cydymffurfio’n fras â thraddodiad y ddeunawfed ganrif o ysgrifennu disgrifiadol topograffaidd a hynafiaethol, roedd ffresni democrataidd i’w lais, a oedd yn cyfleu dyheadau am wella diwylliant cyfoes Cymru, yn ogystal ag adrodd ei hanes a’i chwedlau.  Bu Pugh wrthi am naw mlynedd ar y Cambria Depicta, nas cyhoeddwyd tan dair blynedd ar ôl iddo farw.

Hawlfraint