Arddangosfa Thomas Phillips

19eg Ganrif

George Stubbs.The anatomy of the horse. London, [1823]. George Stubbs.The anatomy of the horse. London,  [1823].

Ganed George Stubbs (1724-1806) yn fab i gwrier a gwerthwr lledr heb lawer o hyfforddiant ffurfiol ond roedd ganddo lawer o allu naturiol.  Meddai ar lawer o wybodaeth anatomaidd a chan ei fod hefyd yn dynnwr portreadau medrus, daeth yn un o'r peintwyr-wyddonwyr gwirioneddol fawr.  Er mwyn cwblhau’i waith aeth Stubbs ati i rentu tŷ fferm ym 1756 lle codwyd sgaffaldau i ddal celanedd ceffylau. Byddai'n dyrannu’r rhain ac yn tynnu llun ohonynt.  Roedd angen 18 mis i gwblhau'r lluniau, a Stubbs hefyd oedd yn gyfrifol am eu hysgythru.  Yn ei ddydd roedd y llyfr yn llwyddiant ysgubol ac yn uchel ei barch gan y gymuned wyddonol Ewropeaidd. Am ganrif a mwy defnyddiwyd Anatomy of Horses yn werslyfr gan wyddonwyr ac artistiaid fel ei gilydd.

Hawlfraint