Arddangosfa Thomas Phillips

19eg Ganrif

John Gould. A synopsis of the birds of Australia, and the adjacent islands. London, 1837-38. John C Bourne. Drawings of the London and Birmingham Railway. London, 1839.

Mae lithograffau John Cooke Bourne (1814-1896) o’r gwaith o adeiladu Rheilffordd Llundain a Birmingham yn dangos y golygfeydd trawiadol ar hyd y daith, ond maent hefyd yn dathlu campau peirianyddol y fenter.  Ym 1836, lai na milltir o gartref Bourne yn Stryd Lamb’s Conduit yn Llundain, dechreuodd y peiriannwr Robert Stephenson ar y gwaith o adeiladu'r llinell, a dechreuodd Bourne gofnodi hynt y gwaith.  Anfonodd nifer o enghreifftiau o’r lluniau pensil a dyfrlliw yr oedd wedi’u gwneud at John Britton (1771-1857), awdur a noddwr y celfyddydau. Gwnaeth y gwaith argraff fawr arno a maes o law daeth yn noddwr i Bourne.  Cwblhawyd y rheilffordd ym 1838, flwyddyn ar ôl coroni’r Frenhines Fictoria.

Hawlfraint