Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
John Gould.A synopsis of the birds of Australia, and the adjacent islands. London, 1837-38.
Roedd yr adaregydd a’r cyhoeddwr John Gould (1804–1881), yn un o naturiaethwyr arloesol Awstralia ac yn wyddonydd uchel iawn ei barch. Pan ddaeth Charles Darwin adref o’i daith ar HMS Beagle yn ystod hydref 1836 dewisodd Gould i ddisgrifio'i gasgliad o adar. Ym mis Ionawr 1837 cyhoeddodd Gould fod grŵp o ddeuddeg aderyn o Ynysoedd y Galápagos, yr oedd Darwin wedi credu eu bod yn ‘fwyeilch, teloriaid, drywod a llinosod’, yn un teulu o linosod, a oedd yn amrywio o ran eu pig a’u maint. Dyma ddarn o dystiolaeth hollbwysig a arweiniodd Darwin at ei ddamcaniaeth ynghylch ffurfiant rhywogaethau ar ynysoedd. Mae gan y gwaith presennol lithograffau wedi’u lliwio â llaw fe’i rhwymir â’r cloriau papur gwreiddiol y’i cyhoeddwyd â hwy. Mae'r awdur wedi’i arsgrifio. Edward Lear (artist ac awdur The Owl and the Pussycat) a dynnodd tua phedwar ugain o blatiau ar gyfer tri o weithiau cynnar Gould.

