Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
John Ross. A voyage of discovery made under the orders of the Admiralty, in His Majesty's ships Isabella and Alexander, for the purpose of exploring Baffin's Bay, and inquiring into the probability of a north-west passage. London, 1819.
Roedd yr adroddiad hwn o daith gyntaf Syr John Ross (1777-1856) ar draws yr Arctig yn arwyddo adfywiad o ddiddordeb ym Mhrydain yn yr ymgais i ddod o hyd i lwybr y gogledd-orllewin, a rhoddodd gychwyn ar y teithiau a’r darganfyddiadau mawr yn yr Arctig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar ôl hwylio cryn bellter i mewn i Lancaster Sound, nododd Ross gyfres o fynyddoedd a oedd yn ei atal rhag croesi ymhellach. Mynyddoedd Croker oedd yr enw a roddodd ar y rhain er anrhydedd prif ysgrifennydd y Morlys, J. W. Croker. Ar ôl dychwelyd i Loegr, cafodd Ross ddyrchafiad. Gwaetha’r modd, buan y daeth i'r amlwg mai dim ond rhithlun oedd Mynyddoedd Croker. A’i hygrededd yn yfflon, ni chafodd Ross byth eto reoli taith archwilio swyddogol ar ran y llywodraeth. Mae gan yr adroddiad presennol ddisgrifiadau manwl o ‘Frodorion Ucheldiroedd yr Arctig’ (sef yr Inuit).

