Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
John Savage. Some account of New Zealand. London, 1807.
Yr adroddiad hwn gan John Savage (1770–1838) yw’r llyfr cyntaf i ganolbwyntio ar Seland Newydd. Yn ogystal â thrafod topograffeg, mae hefyd yn nodi arferion, iaith, celfyddydau a llywodraeth yr ynysoedd cyn i Ewropeaid ymsefydlu arnynt. Ar ôl dychwelyd i Loegr, cymerodd Savage un Maori gydag ef o’r enw Moehanga (Moyhanger), y brodor cyntaf o Seland Newydd i ymweld â Lloegr. Mae gan y llyfr ddisgrifiad o Moyhanger ac o’i arhosiad yn Llundain.

