Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
Josiah Gregg. Commerce of the Prairies. Philadelphia, 1844.
Ganed Josiah Gregg (1806-1850) yn Tennessee. Bu’n fasnachwr, fforiwr, naturiaethwr, ac yn awdur a fu’n masnachu am naw mlynedd o 1831 ymlaen ar Lwybr Santa Fe. Rhoddodd adroddiad Gregg o fermin, ffawna, fflora a llwythau brodorol hwb i’w enwogrwydd llenyddol. Fe’i cyflogwyd maes o law yn ohebydd newyddion yn ystod y Rhyfel rhwng Mecsico ac America. Ar ôl y rhyfel, roedd Gregg yn rhan o Ruthr Aur Califfornia a bu farw o newyn ac o’r oerfel wrth iddo arwain tîm allan o wersyll mwyngloddio ar ôl i’r eira gau amdano.

