Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
Lady Maria Callcott. Journal of a residence in India. Edinburgh, 1812
Un o’r prif ysgrifenwyr teithio benywaidd ddechrau’r 19eg ganrif oedd Maria Graham (1785-1842). Roedd yn ferch i ôl-lyngesydd, a theithiodd i’r India ym 1808, lle cwympodd mewn cariad â chapten llong a’i briodi, gan deithio gydag ef ar y môr o amgylch yr India a Ceylon. Aethant i Bombay, Poona, Colombo, Madras, a Calcutta, a nifer o demlau ac adfeilion, cyn dychwelyd i Loegr ym 1811. Wedyn bu Maria yn teithio’n eang yn Ne America. Ar ôl marwolaeth ei gŵr ym 1822, priododd â’r artist Augustus Wall Callcott Robinson.

