Arddangosfa Thomas Phillips

19eg Ganrif

Robert John Thornton. Temple of Flora, or Garden of Nature. London, 1807. Robert John Thornton. Temple of Flora, or Garden of Nature. London, 1807.

Mae’n debyg mai’r Temple of Flora, or Garden of Nature, y drydedd ran a’r olaf o waith Dr Robert John Thornton (1768–1837) New illustration of the sexual system of Carolus von Linnaeus, yw’r llyfr blodau mawr mwyaf ysblennydd ac enwocaf ohonynt i gyd. Yr wyth ar hugain o ddarluniau yn y Temple of Flora yw’r rhai mwyaf agored ddramatig yn hanes botaneg.  Darlunnir pob planhigyn ar gefndir awgrymog sy’n dangos ei darddiad egsotig, y tymhorau a'r amseroedd y blodeua ynddynt, ei gysylltiadau emosiynol a’i arwyddocâd cymdeithasol a gwleidyddol.   Roedd y llyfr yn fethiant masnachol a lyncodd gyfoeth Thornton. Mewn ymdrech i hyrwyddo’r gwaith, ym 1804 cynhaliodd arddangosfa o’r platiau gwreiddiol, ac ym 1811 awdurdodwyd ‘Loteri Fotanegol Frenhinol’ gan ddeddf seneddol. Gwerthodd 20,000 o docynnau am 2 gini'r un. Y wobr gyntaf oedd set o baentiadau gwreiddiol, ac roedd ei ddarluniau a’i destunau argraffedig ymhlith y gwobrau eraill.  {0><}0{>Er gwaethaf ei ymdrechion i farchnata’i gyhoeddiadau, parhau i waethygu a wnaeth ei sefyllfa ariannol.<0}  Pan fu farw ym 1837, roedd ei deulu bron yn gwbl amddifad.

Hawlfraint