Arddangosfa Thomas Phillips

19eg Ganrif

Sir George Grey. Journals of two expeditions of discovery in north-west and western Australia. London, 1841. Sir George Grey. Journals of two expeditions of discovery in north-west and western Australia. London, 1841.

Cychwynnodd Syr George Grey (1812–1898) ar yr H.M.S. "Beagle" (sef yr un llong â’r un a oedd wedi cludo Darwin i Ynysoedd y Galapagos) ym mis Gorffennaf 1837, gan gyrraedd gerllaw arfordir Awstralia ym mis Rhagfyr.  Ym 1838 a 1839 bu’n arwain dwy daith i archwilio’r arfordir.  Buan y dechreuwyd amau’i adroddiadau optimistaidd ynghylch ffrwythlonrwydd mawr, ac efallai y byddai rhai o drigolion gorllewin Awstralia yn synnu wrth ddarllen ei honiad ‘nad oes un wlad yn y byd wedi’i dyfrio’n well’.  Ar ei daith gyntaf, anafwyd Grey yn ei glun gan waywffon Cynfrodor.   Mewn ymateb, saethodd ei ymosodwr.  Daeth Grey yn llywodraethwr trefedigaethol ac wedyn yn brif weinidog ar Seland Newydd.

Hawlfraint