Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
The Paradise Lost of Milton. London, 1827.
Daeth llwyddiant masnachol a chlod beirniadol enfawr i ran yr artist John Martin (1789-1854) yn sgil y gwaith hwn a gomisiynwyd gan y cyhoeddwr Americanaidd a oedd yn gweithio yn Llundain, Septimus Prowett. Ysbrydolwyd rhamantiaeth apocalyptaidd y darluniadau yn rhannol gan engrafiadau Piranesi a chyfrolau a oedd wedi’u cyhoeddi o olygfeydd yn y Dwyrain. Argraffiad i'w brawf ddarllen oedd hwn, a dim ond hanner cant a gyhoeddwyd.

