Arddangosfa Thomas Phillips

19eg Ganrif

William Alexander. The costume of China. London, 1805. William Alexander. The costume of China. London, 1805.

Yr artist William Alexander (1767–1816) oedd y dylunydd ieuaf yn llysgenhadaeth yr Arglwydd Macartney i Tsieina yn ystod 1792–4.  Engrafwyd ei ddarluniau o’r fenter ar gyfer y cofnod swyddogol a byddent yn ysbrydoli gyrfa Alexander ym maes arddangos a chyhoeddi.  Enynnodd ei olygfeydd o fywyd pob dydd yn Tsieina edmygedd mawr ar adeg pan oedd celfyddydau addurniadol Prydain yn drwm o dan ddylanwad arddull Tsieina.  Gwnaeth cyhoeddwr y gwaith dan sylw, William Richard Beckford Miller (1769–1844), ei ffortiwn trwy gynhyrchu cyfres o gyhoeddiadau a oedd yn darlunio moesau, arferion a gwisgoedd amryw o wledydd, ynghyd â disgrifiadau yn Saesneg a Ffrangeg. Gwrthododd Miller y cyfle i gyhoeddi cerdd epig hynod boblogaidd yr Arglwydd Byron, "Childe Harold". Yn ôl y sôn, y rheswm dros y penderfyniad hwn oedd bod y gerdd yn lladd ar noddwr Miller, yr Arglwydd Elgin, gan ei alw’n “ysbeiliwr”. Ysgrifennodd yr Arglwydd Byron yn faddeugar ato gan ddweud y gallai ddeall ac yn wir cymeradwyo'i resymau'n iawn.  Cyhoedodd Miller y cyfieithiad cyntaf i’r Saesneg o waith Gerallt Gymro, Taith yr Archesgob Baldwin Trwy Gymru 1188 OC, a oedd yn disgrifio taith y ddau glerigwr er mwyn recriwtio Cymry i ymuno â’r Croesgadau.

Hawlfraint