Arddangosfa Thomas Phillips
19eg Ganrif
William Barr. Journal of a march from Delhi to Peshawur. London, 1844.
Ym 1837, gyda chefnogaeth Rwsia, rhoddodd byddin o Bersia ddinas Herat yng ngorllewin Afghanistan dan warchae. Ystyriai llywodraeth Prydain hyn yn fygythiad i’w buddiannau yn yr India, a dechreuodd ofni y byddai Rwsia yn ymosod ar y ffin ogledd-orllewinol. Er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiad, ffurfiwyd Byddin yr Indus a’i gorchymyn i yrru’r gwarchaewyr o Afghanistan. Roedd gan y fyddin 5000 o Fwslemiaid Punjabi o fyddin Ranjit Singh a oedd yn gynghreiriad triw i Brydain, llu o 4000 a gasglwyd gan gyn-Frenin Afghanistan Shah Suja, a oedd wedi’i ddiorseddu a’i alltudio, a 380 o filwyr rheolaidd o Gwmni India’r Dwyrain. Ar ôl llwyddiannau cychwynnol, trechwyd byddin yr Indus ac ym mis Ionawr 1842 cerddodd garsiwn Kabul, sef 4,500 o filwyr Prydeinig ac Indiaidd ynghyd â 12,000 o ddilynwyr y gwersyll allan o’r ddinas ar ôl cael addewid y byddent yn cael encilio i’r India yn ddiogel. Fodd bynnag, ymosodwyd arnynt ar unwaith wrth iddynt ymdrechu i groesi’r wlad oer a mynyddig. Dim ond cant o bobl a oroesodd i’w carcharu a dim ond un a gyrhaeddodd ddiogelwch Jellalabad yn fyw. Ysgrifennodd yr Is-gapten William Barr o Ganonau Ceffyl Bengal ddyddlyfr yn sôn am ei ran yn ystod deuddeng mis cyntaf yr ymgyrch.

