Arddangosfa Thomas Phillips

19eg Ganrif

William Shakespeare. The works of Shakspere. London, 1844. William Shakespeare. The works of Shakspere.London, 1844.

Ganed darlunydd y gwaith hwn, Joseph Kenny Meadows (c1790-1874), yn Aberteifi.  Ym 1823 symudodd i Lundain, lle bu’n arloesi ym maes engrafiadau pren fel modd o gynhyrchu darluniadau’n rhad.  Ei uchelgais oedd cyhoeddi cyfrol ddarluniadol lawn o waith Shakespeare, a chyflawnodd hyn rhwng 1839 a 1843 trwy ddylunio hyd at 1000 o blatiau ar gyfer argraffiad tair cyfrol Barry Cornwall.  Mae’i ddarluniadau ar gyfer y prosiect wedi cael canmoliaeth uchel ac fe’u hystyrid ymhlith enghreifftiau ceinaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.   Er ei fod yn eiddil o gorffolaeth ac yn dioddef o wynegon cronig, gelwid Meadows yn Iron Jack oherwydd ei stamina a’i allu i yfed ei ddiod yn ddieffaith.

Hawlfraint