Arddangosfa Thomas Phillips
Bywgraffiad o Thomas Phillips
'Meddwl Diwylliedig a Chyforiog' Thomas Phillips MRCS, Cymwynaswr Coleg Dewi Sant, Llanbed
Mae enw’r cymwynaswr Thomas Phillips a roddodd dros 20,000 o lyfrau a llawysgrifau i lyfrgell y coleg yn hen gyfarwydd i’r Brifysgol. Ond llai hysbys yw hanes y dyn ei hun. Cafodd fywyd hir – rhwng 1760 a 1851 – ac mae’n darllen fel un o nofelau ‘Hornblower’ C.S. Forester neu ‘Sharpe’ Bernard Cornwell
Un o Gymry Llundain oedd Phillips a’i deulu’n hanu o Landeglau yn Sir Faesyfed, ond cafodd ei eni o fewn clyw ‘Bow Bells’. Nid yn Llundain y’i magwyd, fodd bynnag, ond gartref yng Nghymru, gan gael blas ar gerdded y mynyddoedd ac archwilio, sef diddordebau a fyddai ganddo gydol ei oes. Dyma lle dechreuodd ar ei yrfa feddygol hir, liwgar a disglair yn brentis i lawfeddyg-apothecari yn y Gelli Gandryll. Nid oedd bywyd tawel ffisigwr cefn gwlad at ei ddant, fodd bynnag, a chyn ei ben-blwydd yn ugain oed roedd wedi dychwelyd i Lundain ac yn astudio llawfeddygaeth o dan John Hunter, sef anatomydd cymharol mwyaf ei ddydd o bosibl. A’i fryd ar antur, ym 1780 aeth yn llawfeddyg cynorthwyol ar yr HMS Danae, sef ffrigad 32-gwn a oedd yn hwylio am Ganada. Yn ystod ei ddwy flynedd o wasanaeth yn y llynges, byddai Phillips yn profi gerwindeb gaeaf yng Nghanada, ar ddyfroedd St Lawrence a oedd wedi'u rhewi, ac yn helaethu'i brofiad llawfeddygol yn ysbytai Quebec a Montreal.
Wrth ddychwelyd adref ym 1782, roedd ganddo ddigon o gymwysterau i ennill Tystysgrif Corfforaeth y Llawfeddygon (M.R.C.S. maes o law) ac roedd yn barod i wneud ei ffortiwn pan ymunodd â Chwmni Anrhydeddus India’r Dwyrain, gan hwylio am yr India ar long a oedd yn mynd i Calcutta. Ychydig a wyddom am ei wasanaeth cynnar, yn ôl pob golwg bu’n gweithio gydag un o'r catrodau o wŷr traed brodorol, a hefyd gyda chatrawd canonau, ond ar ôl 1794, pan y'i penodwyd yn Llawfeddyg llawn, daw'r hanes yn gliriach. Ym 1796 hwyliodd am Awstralia i arolygu’r ddarpariaeth yn ysbytai gwladfa gosb Botany Bay, a oedd wedi’i sefydlu wyth mlynedd ynghynt, a rhoi adroddiad ar y ddarpariaeth honno. Ar ôl cyflawni’i ddyletswydd, achubodd ar y cyfle i ddychwelyd i’r India trwy Tsieina a Penang. Teithiodd Phillips yn eang, ac mae rhannau helaeth o’i rodd i Lanbed yn dyst huawdl i’w frwdfrydedd dros y Dwyrain a’i gariad ohono, yn ogystal â’i ddymuniad i ehangu gorwelion a chynyddu gwybodaeth myfyrwyr y coleg, nad oedd y mwyafrif llethol ohonynt erioed wedi mentro y tu hwnt i Gymru.
Ym 1798, ar ôl dros bymtheg mlynedd yn yr India, hwyliodd Phillips adref am seibiant, ond daeth i drafferthion oherwydd y rhyfel a oedd bellach wedi dechrau â gweriniaeth Ffrainc. Daliwyd y llong o Ddenmarc yr oedd yn hwylio arni, a charcharwyd Phillips yn Bordeaux, a'i holi am ddau ddiwrnod. Trwy lwc (rhywbeth na fu erioed yn brin yn ei hanes), ni ystyrid teithwyr na swyddogion ar seibiant salwch yn garcharorion rhyfel - ac roedd Phillips yn dioddef ar y pryd o glefyd ar yr afu - fe’i rhyddhawyd, a llwyddodd i ddychwelyd i Sir Faesyfed. Mae’n bosibl i garwriaeth o’i lencyndod ailgynnau yno, ac yn 40 oed, ym 1800, priododd ag Althea Edwards, merch rheithor Cusop, a oedd wedi cael gofal amdano'n blentyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw a’i hachubodd unwaith rhag boddi (sef drama Phillipsaidd arall o’r iawn ryw!). Roedd eu priodas yn un hir a hapus, er na chawsant blant, ac ym 1802 aeth Althea yn ôl gydag ef i’r India, lle’r ailgydiodd yn ei swydd fel llawfeddyg yn un o’r catrodau canonau.
Ym 1810 dyrchafwyd Phillips yn Llawfeddyg Uwcharolygol. Roedd yn 50 erbyn hyn, ac i lawer byddai dyrchafiad o’r fath wedi golygu hanner ymddeoliad cysurus. Ond nid un felly oedd Phillips: dyma ddechrau cyfnod mwyaf gweithgar a pheryglus ei fywyd. Er mai ei ganolfan swyddogol oedd Meerut, ryw 70 cilometr i’r gogledd-ddwyrain i Delhi, ac un o’r garsiynau mwyaf yng ngogledd yr India (lle byddai Gwrthryfel yr India yn ffrwydro ym 1857) mewn gwirionedd, roedd Phillips ar wasanaeth gweithredol yn ystod Rhyfel Java, ac roedd yn bresennol pan y’i cipiwyd. Dair blynedd yn ddiweddarach roedd yn Nepal, yn yr ymgyrch yn erbyn y Gurkhas o dan yr Uwchfrigadydd Robert “Rollicking Rollo” Gillespie. Yn y gwarchae affwysol o ddi-drefn ar Kalunga , saethwyd Gillespie o’i geffyl a bu farw ym mreichiau Phillips. Gan mai Gillespie oedd yn arwain yr ymosodiad ar y pryd, awgryma hyn fod Phillips ar faes y gad, ac mae’r adroddiadau’n cadarnhau hyn. Roedd ef a’i gynhorthwy-ydd i fyny yno gyda’r milwyr a oedd yn brwydro, gan ofalu am y rheini a anafwyd wrth iddynt gwympo, a lladdwyd un milwr ag ail fwled ar yr union adeg yr oedd Phillips yn ei drin. Heb ddangos mymryn o ofn, mae’n amlwg bod Phillips yn defnyddio fersiwn ar yr ysbyty maes a’r orsaf rwymo symudol a arloeswyd gan uwch lawfeddyg mawr Napoleon, y Barwn de Larry.
Yn Kalunga, dangosodd Phillips unwaith eto'r cydymdeimlad a’r caredigrwydd a welwyd gydol ei yrfa. Ar ôl i'r gaer ildio o’r diwedd, gadwyd y menywod a oedd wedi cynorthwyo i'w hamddiffyn ac a glwyfwyd, i farw. Ildiodd Phillips ei babell ei hun iddynt, gan fynd ati i’w trin. Flynyddoedd lawer ynghynt, ar long yr Hind, roedd wedi gwneud rhywbeth tebyg, pan roddodd ei le cysgu i forwr sâl. Ar achlysur arall, pan oedd yr awel a oedd yn cludo'r llong yr oedd yn teithio arni ar Gefnfor yr India wedi peidio, a’r cyflenwad dŵr wedi darfod, rhannodd ei beint olaf â morwr a oedd yn marw, gan ei roi iddo fesul llwyaid. Dim ond glaw trwm dros nos, a ddaliwyd yn yr hwyliau a’i sianelu i ail-lenwi’r casgenni, a achubodd Phillips a gweddill y criw bryd hynny. Ni fu ei diogelwch na’i gysur ei hun erioed yn flaenoriaeth i Phillips.
Yn ystod ei flynyddoedd olaf â Chwmni India’r Dwyrain, ym Mauritius a Chunar (gerllaw dinas sanctaidd Benares), ac yntau bellach yn aelod cyfoethog a phwysig o sefydliad meddygol yr India, dechreuodd Phillips wneud rhywbeth y byddai’n parhau i’w wneud weddill ei oes: cyflenwi llyfrgelloedd â llyfrau i hwyluso addysg y rheini na allai fforddio gwneud hynny fel arall. Dechreuodd hyn yn Ystafelloedd Bwyta’r milwyr cyffredin, ond ar ôl ymddeol ym 1817 a dychwelyd i Lundain, parhau a wnaeth a bu llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen yn Henffordd, y Gelli a Llanfair-ym-Muallt ymhlith y rhai a fu’n elwa ar ei roddion. Fel pob un o staff Cwmni India’r Dwyrain, roedd wedi buddsoddi a masnachu yn ystod ei 35 mlynedd o wasanaeth. Roedd wedi gwneud digon o arian i brynu (am £40,000) blanhigfa siwgr ar St Vincent yn India’r Gorllewin, ac er ei fod yn landlord absennol, roedd yn poeni am les ei gaethweision cyn iddynt gael eu rhyddhau 1834, ac yn ofalus am les ei weithwyr ar ôl hynny. Gartref roedd ganddo nifer o ‘bensiynwyr’ personol; talodd am addysg rhai o’i berthnasau pell o’i boced ei hun ac nid rhywbeth anarferol oedd iddo anfon anrheg o lyfr wedi’i rhwymo â phapur £100! Ar raddfa ehangach, ym 1847, ac yntau’n 87 oed, sefydlodd Goleg Llanymddyfri, gan roi gwaddol o gyfranddaliadau iddo a oedd yn werth (ar yr adeg honno) bron £13,000 a 7000 o lyfrau er mwyn sefydlu’r llyfrgell. Yma yn Llanbed, rydym eisoes wedi cyfeirio at y llyfrau a roddwyd ganddo, ond sefydlodd hefyd chwe ysgoloriaeth, a phan fu farw ym 1851 gadawodd gyfranddaliadau i’r coleg ym Manc y London & Westminster gwerth (bryd hynny) £7,000. Roedd Thomas Phillips yn ddyn cefnog iawn, ond hefyd yn ddyn hael dros ben. Yn ôl un berthynas bell, roedd “yn lletygar a hael, yn ddaionus a thosturiol, yn hoffus a charedig. Roedd yn gallu sylwi’n astud ar bethau, roedd ganddo gof ardderchog, meddwl diwylliedig a chyforiog ac [roedd] yn sgwrsiwr heb ei ail, gan deimlo i'r byw'r hyn y byddai'i gyd-greaduriaid yn ei ddioddef". Pan fu farw, canfuwyd dros 50,000 o lyfrau yn ei gartref yn Llundain, a phob un wedi'i glustnodi ar gyfer ei anfon i wahanol lyfrgelloedd, gan gynnwys y llyfrgell yma.
This, then, was Thomas Phillips, one of the three ‘Thomases’ we number with pride and gratitude among our founders. Long may his portrait, a copy of that by Mornewick at Llandovery College, grace the new Roderic Bowen Library and Archives, which now houses so many of his books and manuscripts.
Hwn felly oedd Thomas Phillips, sef un o'r tri 'Thomas' yr ydym yn eu cyfrif ymhlith ein sylfaenwyr gyda mesur o falchder a diolchgarwch. Boed i’w lun, sef copi o waith Mornewich yng Ngholeg Llanymddyfri, barhau’n hir ar fur adeilad newydd Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, lle cedwir bellach gynifer o’i lyfrau a’i lawysgrifau.
John Morgan-Guy

