Arddangosfa Thomas Phillips
Rhaglith yr Is Ganghellor
Ym mis Gorffennaf 2010, mae’r Brifysgol yn dathlu’r ffaith ei bod yn 250 mlynedd ers i’r rhoddwr hael Thomas Phillips gael ei eni. Roedd cefnogaeth Phillips i Goleg Dewi Sant yn syfrdanol trwy gyfrwng y trigain llwyth o lyfrau a llawysgrifau prin a ddechreuodd gyrraedd Llanbed ym 1834 ac a barhaodd tan 1852, chwe mis ar ôl marwolaeth Phillips ei hun yn nawdeg un. Anfonwyd dros 22,000 o lyfrau a llawysgrifau a brynwyd i’r Coleg gan Phillips ar long o Lundain i borthladd glan afon Caerfyrddin. Oddi yno cludwyd hwy mewn cert am y ddwy filltir ar hugain oedd yn weddill dros y ffyrdd garw i Lanbedr, sef taith beryglus a chostus.
Yn ddiweddarach eleni, bydd trefi Llanbed a Chaerfyrddin yn dathlu unwaith eto pan fydd Prifysgol Cymru Llanbed a Choleg Prifysgol y Drindod, yn amodol ar sêl bendith y Cyfrin Gyngor, yn creu prifysgol newydd: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd y brifysgol newydd yn elwa ar etifeddiaeth, arbenigedd a gwybodaeth y ddau sefydliad er mwyn meithrin rhagoriaeth ym maes addysgu ac ymchwil, a chyfrannu at lewyrch economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Bellach, mae Casgliad Phillips yn rhan o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, a agorwyd ym mis Hydref 2008, sydd wedi’i henwi ar ôl cyn-Lywydd ar y Brifysgol a rhoddwr iddi, Dr E Roderic Bowen. Mae’r Casgliadau Arbennig a geir ynddi yn drysor heb os, i’r Brifysgol ond hefyd i Gymru gan eu bod yn gasgliad unigryw o dros 30,000 o gyfrolau a gyhoeddwyd rhwng 1470 a 1850 (gan gynnwys 69 o incwnabwla) yn ogystal ag wyth llawysgrif o’r Canol Oesoedd a 100 llawysgrif o gyfnod diweddarach.
Hoffwn eich croesawu’n wresog i rannu’r trysorau hyn, gan ymuno â ni i ddathlu’n hetifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog.
Dr Medwin Hughes DL DPhil DPS FRSA
Yr Is Ganghellor

