Beibl Llambed

G de FecampLlawysgrif hynod ar sawl ystyr yw MS 1 yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen.  Mae llofnod yr ysgrifennydd arni, ac yn ogystal â rhoi’i enw ei hun, 'G. o Fécamp', nododd y dyddiad, 1279, ac enw ei noddwr, yr Abab Jacobus (Iago) o Abaty Benedictiaid Saint-Pierre-sur-Dives (Esgobaeth Sées) yn Normandi.  Rhoddir yr holl wybodaeth hon ar ffurf penillion sy'n odli mewn coloffon anarferol o hir ar ddiwedd y gyfrol ar f. 427, a cheir portread o’r Abad Iago ar f.  233v yn y llythyren agoriadol ar gyfer Caniad Solomon, lle'i gwelir yn abid du’r Benedictiaid, yn dal y fugeilffon sy’n dangos mai Abad ydyw, ar ei liniau gerbron y Forwyn a’r Plentyn. 

Yn ôl Gallia christiana (XIII, col. 733), roedd yr Abad Iago II yn ei swydd yn Saint-Pierre-sur-Dives o 1268 ymlaen, a sonnir amdano am y tro olaf ym 1273.  Roedd ei olynydd, Petrus, mewn trafodaethau ynghylch materion cyfreithiol â’r Brenin Harri II o Loegr ym 1280, a chredir iddo ddechrau yn ei swydd erbyn 1274, er bod coloffon 1279 yn priodoli nawdd Beibl Llambed i Iago, heb grybwyll Pedr, gan nodi i G gymryd pedair blynedd i’w ysgrifennu.  Felly naill ai roedd G wedi dechrau ar y llyfr ar gyfer Iago cyn iddo farw, gan orffen y gwaith o dan Pedr nad yw’n cyfeirio ato, neu, yr hyn sy’n fwy tebygol, mae coloffon y Beibl yn dystiolaeth bod Iago yn dal yn fyw ym 1279 ac mai ef a dderbyniodd y Beibl yn y flwyddyn honno, ychydig cyn i’w olynydd Pedr gael ei gofnodi yn y swydd ym 1280. Byddai Iago wedi marw'n fuan ar ôl derbyn y Beibl, ar ddiwedd 1279 neu ar ddechrau 1280.

Ysgrifennodd G. de Fécamp mewn llawysgrifen ffurfiol bigog  brydferth ar gyfer llyfrau heb lawer o dalfyriadau ond â phriflythrennau nodedig gan eu haddurno yn aml ag wynebau proffil mewn du gydag ychydig o ocr, yn enwedig ar y llinellau uchel lle gallai'r addurn a esgynnai fry fanteisio ar le'r ymyl uwchben i'w harddu.  Gwelir ôl ei law ar rai llawysgrifau eraill, yn enwedig Gwyrthiau’r Forwyn, Paris, BNF lat. 17491, lle'r artist yw'r gorau o baentwyr Jumièges a oedd o bosibl yn gyfrifol am rannau o Feibl Llambed hefyd; a chopi anghyflawn o waith Gregori Fawr, Moralia, libri XVII-XXXVII, Poitiers, Méd. mun. Mae’n bosibl mai’r un ysgrifennydd a wnaeth F. Mittérand, 68(41). 

G de FecampAddurnir y Beibl â llythrennau blodeuog mewn coch a glas, am yn ail, a'r blodeuo yn y lliw arall i’r llythrennau, ar gyfer y penodau, a rhai'n hwy, gyda barrau parti mewn coch a glas.  Dynodir y prologau â llythrennau wedi'u dalennu, lle ceir anifeiliaid, hybridau, ffigurau, yn aml ag ymylon sy’n cynnal anifeiliaid.

Llythrennau cyntaf wedi’u haddurno â phobl neu hyd yn oed ddigwyddiad yw’r rhan fwyaf o’r gwaith darlunio yn y Beibl, a cheir darluniad ar gyfer pob un o lyfrau’r Beibl, ac yn achos rhai o'r rhain ceir ymylon â ffigyrau arnynt.   Cymerodd dau ddarlunydd ran, un meistr (peintiwr BNF lat. 17491, a nodwyd uchod) a’i gynorthwyydd llai medrus. Hwn oedd yn gyfrifol am Ail Lyfr y Macabeaid a llythrennau cyntaf y Testament Newydd, a’r prif artist yn gwneud gweddill y gwaith darlunio ar ei ben ei hun.  Gwelir ôl llaw y prif beintiwr mewn nifer o Feiblau, llyfrau litwrgaidd ac esboniadol darluniadol at ddefnydd Abaty Benedictiaid Jumièges (Esgobaeth Rouen), ac ar gyfer Eglwys Gadeiriol Rouen.  Ceir copi o’r rhamant Arthuraidd, L'Estoire del saint Graal, hefyd ymhlith ei lawysgrifau (Prifysgol Califfornia, Berkeley, UCB 106).

Sut y daeth Beibl Llambed i Gymru?  Y cyfan y gellid ei ddweud oedd ei fod ym meddiant y Carthwsiaid ym Mhrydain erbyn y 15fed ganrif.  Mae Neil Ker wedi sylwi ar bresenoldeb nodiadau ar gyfer llithiau'r Sistersiaid: P am Prima, S am Secunda, T am Tercia, ac mae o’r farn i’r rhain gael eu hychwanegu yn yr ymylon yn y 15fed ganrif.  Ac ychwanegodd nifer o berchnogion Seisnig y gyfrol yn ystod yr 16eg ganrif eu henwau yn yr ymylon: W. Crofton neu Croston (f. 1); John Laue (f. 164); Richard Whitney (f. 290); Richard Whitney ‘the poitarie’ (f. 315); John Laue (f. 427v) 'by me John Weard ded writ this same' (f. 427v).  Erbyn y 19eg roedd ym meddiant T.L.  Burgess, Esgob Caersallog, sylfaenydd Coleg Dewi Sant, ac fe’i gadawodd yn ei ewyllys i’r Coleg ym 1837.

Nesaf