Beibl Llambed
Canticum Canticorum
f. 233v, y llythyren O gyntaf ar gyfer Caniad Solomon (Canticum Canticorum) yn yr Hen Destament, sy’n dangos abad mewn abid du, â bugeilffon yn ei law, ar ei liniau gerbron y Forwyn a’i Phlentyn. Mae’n fwy na thebyg mai’r Abad Iago oedd hwn, sef y dyn yn ôl y coloffon a gomisiynodd y Beibl. Mae’r darlun yn arbennig o arwyddocaol gan mai dim ond ychydig o enghreifftiau eraill sydd o luniau o abad gerbron y Forwyn a’r Plentyn yn ystod y cyfnod hwn, ac nid oes unrhyw enghraifft arall o abad mewn darluniad ar gyfer Caniad Solomon. Delwedd o’r Forwyn a’r Plentyn a ddewisid gan amlaf wrth greu darluniadau ar gyfer Caniad Solomon, ond mae’r pwyslais yma ar ddefosiwn yr Abad gerbron y ffigurau sanctaidd. Mewn Beibl deheuol sydd bellach yn Santa Barbara, UCSB, BS 75 1297, dangosir grŵp o fynachod du sy'n sefyll y tu cefn i'r Forwyn a’r Plentyn yn y llythyren gyntaf ar gyfer Caniad Solomon. Fel arall, ceir ychydig o luniau yn y Gogledd o abadau ymhlith mathau eraill o lawysgrifau’r Sistersiaid: Dangosir Robert de Béthune, Abad Abaty Sistersiaid Clairmarais ger Saint-Omer rhwng 1257-1266, ar ei liniau gerbron y Forwyn a’r Plentyn ar y miniatur tudalen lawn agoriadol o’i gopi o weithiau Richard de Saint-Laurent (Saint-Omer, BM 174); yn y Ddefod ar gyfer Ter Duinen (O. Cist., Dioc. Thérouanne), ceir darlun o abad, Lambert Uppenbroeck (1318-1354) fwy na thebyg, ac abid brown amdano a bugeilffon yn ei law, a ddangosir yn yr ymyl ar waelod y dudalen o dan finiatur tudalen lawn o’r Croeshoeliad (Bruges, Groot Seminarie, 77/98); ac mewn Brefiari a oedd yn eiddo i Abad Clairvaux (O. Cist., Esgobaeth Troyes), efallai Philippe (1262-1273) neu Beuve (1273-1280), ceir darlun o fynach syml ar ei liniau gerbron y Forwyn a’r Plentyn (Troyes, BM 1146).

