Beibl Llambed

Deuteronium

Deuteronomiumf.64 yn y dudalen hon mae darn o'r testun yn Deuteronomium Pennod 11 adnod 31 ar goll. Defnyddir y gair 'possideatis' ddwywaith yn yr un frawddeg ac mae llygad yr ysgrifennydd wedi neidio o’r darn cyntaf i’r ail gan golli’r testun a oedd rhyngddynt.  Mae wedi ychwanegu’r geiriau sydd ar goll mewn blwch ar ffurf triongl yn yr ymyl i’r chwith ac mae wedi’i addurno'n gelfydd â phin ysgrifennu.

Mae arwydd croesgyfeirio ar ffurf llythyren ‘y’ ar frig y triongl ac yn y testun ei hun yn dangos lle dylai’r testun sydd ar goll fynd.   Dyma’r math mwyaf cyffredin o wall ysgrifennu ac mae’n dangos, er gwaethaf llawysgrifen osgeiddig G. de Fécamp, ei fod yntau'n gallu gwneud camgymeriadau. 'Homoioteleuton' yw’r term technegol am y math hwn o wall.  Islaw triongl y darn a oedd ar goll mewn cyfnod diweddarach (y 15fed ganrif?) mae rhywun wedi nodi sylw mewn ysgrifen redeg sydd wedi’i thalfyrru’n drwm.

Diolchiadau

Paratowyd yr arddangosfa hon yn garedig iawn gan yr Athro M. Alison Stones PhD, FSA, Adran Hanes Celf a Phensaernïaeth, Prifysgol Pittsburgh.