Beibl Llambed
Ezra

f. 163v Ezra: y llythyren I gyntaf, y Brenin Cyrus yn rhoi gorchmynion i adeiladwyr. Saif y brenin o dan arch ar waelod y llythyren I gyntaf, ac uwch ei ben mae saer maen yn gwneud llinell o waith cerrig. I’r chwith yn yr ymyl saif tri adeiladydd ar ysgolion lled sigledig yr olwg sy’n cludo deunyddiau adeiladu i lawr uchaf yr adeilad. Dyma’r testun cyffredin ar gyfer llyfr Esra ac fe’i ceir ym mhib un o’r Beiblau perthynol eraill.

