Beibl Llambed
G.de Fecamp
1. f. 427, y coloffon gan yr ysgrifennydd, G. de Fécamp. Mae’n rhaid bod y ffaith i G. ddefnyddio Fécamp yn gyfenw iddo yn dangos nad oedd yn byw yn Fécamp pan ysgrifennodd y llyfr hwn, ond gallai hynny olygu iddo fod unwaith yn fynach yn Abaty’r Benedictiaid yno. Mae llawysgrifen G. a llythrennau cyntaf y goleuwr yn debyg i’r hyn a geir mewn llyfrau sydd ym meddiant Abaty Benedictiaid Jumièges, sef mynachlog Normanaidd arall, ac Eglwys Gadeiriol Rouen, ac awgryma geiriad coloffon G. iddo weithio ar y Beibl hwn yn Abaty Benedictiaid Saint-Pierre-sur-Dives.
Ysgrifennydd, rho dy law i lawr! Mae’r llyfr hwn wedi’i gwblhau
Blodau o’r wlad i ddarllenydd G o Fécamp,
Goleuni di-ben-draw a fo i G (yn awr) caewch y gyfrol.
Boed i’r hyn a ysgrifennaist roi iti orfoledd Crist.
Roedd gan awdur yr ysgrythur hon goes gloff.
G o Fécamp, wedi’i gwblhau yn y bedwaredd flwyddyn
Yn Saint Pierre-sur-Dives. Credwch y mydr.
Cewch y gwirioneddau hyn yn siambr y cantor.
Archebodd yr abad gwylaidd Iago, sy'n ddyn gonest, Feibl
Mae hwn yn ddyn duwiol ac anrhydeddus. Dyma a ysgrifennais,
Yn y flwyddyn mil, dau cant a saithdeg naw
Yr ysgrifennir hwn ac y rhoddaf y Beibl da hwn o Dduw.
(Cyfieithwyd gan Jeanne Krochalis).

