Beibl Llambed
Genesis
f. 2 y llythyren F gyntaf, ar gyfer y Prolog i Genesis gan Sant Jerôm, cyfieithydd y Beibl, gan ddechrau â’r gair 'Frater'. Gwelir ffigwr â meitr ar ei ben ym mar uchaf y llythyren, yn ysgrifennu wrth ddesg, wedi’i ysbrydoli gan angel sy’n pwyso allan o gwmwl. Y dewis mwyaf poblogaidd ar gyfer llythyren agoriadol y prolog yw Jerôm ei hun, nad oedd yn esgob, ond dewisodd dau Feibl arall sy'n perthyn o ran eu harddull i Lambed 1 hefyd ffigwr â meitr ar ei ben ar gyfer darluniad o’r prolog Fater. Ymddengys yn debygol mai at Sant Paulinus, esgob Nola, y cyfeiria Prolog Jerôm. Dyma’r Beiblau perthynol: Sotheby 2 Rhagfyr 1986, eitem 38, f. 1, a Beibl Huth, Llundain, BL Add. 38114 f. 1. 
Uwchben y ffrâm ar gyfer y llythyren F gyntaf ceir 5 cylchig o waith sgrôl ag epaod sy’n canu trymped, telyn gludadwy, a bacbib; ac un sy’n dawnsio ac un arall sy’n sefyll. Dangosir dyn yn saethu adar â bwa saeth ar derfynau ffiniol, ynghyd â rhagor o epaod, gwiwerod, a chi sy’n erlid ysgyfarnog. Islaw mae 12 o anifeiliaid cerddorol mewn cylchigau, trympedwr yn yr ymyl, 2 angel a’r Croeshoeliad gyda Mair ac Ioan, ynghyd â phedair cylchig ychwanegol isod.
l'r dde ar yr ymyl, mae dwy fenyw sy’n dal babanod er mwyn iddynt gael mynd am dro ar gefn arth, sy'n cael ei dywys ar gadwyn gan geidwad sydd â ffon yn ei law. Mae’r cerddorion a’r dawnswyr yn ailymddangos ym Meibl Huth ynghyd â motiff mamau, babanod, a theithiau ar gefn arth, a’r olaf ar waelod miniatur o’r Creu ar gyfer dechrau Genesis ym Meibl Huth (f. 5).
Nesaf

