Beibl Llambed
Iago
f. 415, Epistol Iago a’i Brolog. Yn llythyren gyntaf y Prolog ceir dynfarch sy’n tynnu tannu saltring â phlectrwm. Yn y llythyren I gyntaf ar gyfer Epistol Iago gwelir Sant Iago Fawr yn sefyll, mewn gwisg pererin a het ar ei ben a ffon yn ei law. Mae’r ddelwedd wedi'i rhwbio'n wael, tua dyddiad ansicr. Efallai y difwynwyd y llythyren fawr gan rywun a oedd yn anfodlon i ddelwedd o Sant Iago Fawr gael ei ddewis i ddarlunio epistol a oedd yn waith Sant Iago Leiaf. Dryswyd yn aml rhwng y ddau Iago yn ystod y Canol Oesoedd ac roedd darlun o Iago Fawr ar ddull pererin yn gyffredin iawn ar gyfer Epistol Iago, gan gyfeirio at y bererindod boblogaidd i Santiago de Compostela a oedd yn honni dal creiriau Iago Fawr.
Nesaf

