Beibl Llambed
Jonah
f. 325v Jona: y llythyren E gyntaf, Jona sy’n cael ei fwrw i'r môr ac i geg y morfil gan 2 ddyn â chycyllau hirbig. Yn y ddelwedd hynod o chwareus hon mae’r artist yn cyflwyno darlun cymesur a amlygir gan gycyllau hirbig dau arteithiwr Jona, Cyfetyb y rhain i’r wynebau tebyg i ysgyfarnogod ar ben blaen a starn y bad, ac ar ben mast hir canolog y bad ceir pennwn gyda chroes a phedair croes fach ar bob coes mewn du ar gefndir gwyn. Tynnir yr hwyl wen yn ôl o gwmpas y ddau ffigwr â chycyllau sy’n dal Jona wrth ei draed. Yr unig ddillad amdano yw ei ddillad isaf gwynion ac mae ei ben a’i freichiau eisoes wedi diflannu i geg y morfil. Yn y Beiblau perthynol, sef Huth f. 167 ac Arles I f. 398v, gwelir Jonah yng nghôl ceg y morfil a dinas Ninife uwchben, ac yn narlun Sotheby f. 358v dangosir Jona yn dod o’r môr yn Ninefa.
Nesaf

